Y Pwyllgor Menter a Busnes

22 Medi 2011

 

EBC(4)-02-11 Papur 3

 

Tystiolaeth gan Edwina Hart, y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth

 

PAPUR I’R PWYLLGOR MENTER A BUSNES

 

1.    Cyflwyniad

 

Hoffwn ddiolch i’r Pwyllgor Menter a Busnes am y gwahoddiad i amlinellu blaenoriaethau’r portffolio Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth a rhoi’r diweddaraf ar faterion yr adroddiad etifeddiaeth. Nid yw’r papur hwn yn cynnwys meysydd portffolio’r Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd, gan fy mod yn cael ar ddeall bod y Pwyllgor wedi rhoi gwahoddiad iddo hefyd.  

 

2.    Amseru

 

Mae’r papur hwn yn cael ei baratoi cyn sesiwn y Cynulliad. Felly er mwyn bod o gymorth i’r Pwyllgor rwyf wedi cymryd y cyfle yn y Papur hwn i amlinellu’r Ymrwymiadau Llywodraeth allweddol yn fy mhortffolio a symud ymlaen gyda’r rheini. Byddaf yn gallu rhoi diweddariad llafar ar y cyd-destun polisi a’r materion ehangach i Aelodau’r Pwyllgor yn y cyfarfod ei hun. 

 

3.    Camau Gweithredu’r Adroddiad Etifeddiaeth

 

Argymhelliad 20. Dylid parhau i graffu ar waith Llywodraeth Cymru ar y cyd â Llywodraeth y DU i egluro amserlenni a sicrhau digon o arian i ddarparu band eang y genhedlaeth nesaf ar draws Cymru gyfan erbyn 2015.

 

Yn dilyn ein trafodaethau gyda Llywodraeth y DU, cyhoeddwyd ym mis Gorffennaf y bydd Cymru’n derbyn £56.9m (mae hyn yn cynnwys y £10m a ddyrannwyd eisoes ym mis Chwefror) o gronfa band eang o £530m, sydd i’w fuddsoddi yn y tymor Seneddol hwn. Bydd y cyllid hwn yn cefnogi prosiect Band Eang y Genhedlaeth Nesaf i Gymru i gyflwyno band eang cyflym ar draws Cymru. Byddwn hefyd yn sicrhau buddsoddiad sylweddol gan y sector preifat i’r prosiect hwn, yn ogystal â chael cyllid o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.

 

Ar 15 ac 16 Awst, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y dyraniadau cyllid oedd yn weddill i’r Alban, Gogledd Iwerddon ac awdurdodau lleol Lloegr. Dim ond cyfanswm o £425m sydd wedi cael ei ddyrannu, gyda’r £105m yn cael ei gadw fel cyllid wrth gefn i’w ddyrannu’n ddiweddarach. Rwyf wedi gofyn i’m swyddogion weithio’n ofalus gyda Llywodraeth y DU i bwyso am ragor o gyllid o’r £105m sy’n weddill.

 

Argymhelliad 21. Dylid parhau i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif: yn gyntaf i sicrhau bod dadansoddiadau cost a budd yn cael eu cynnal cyn gwneud unrhyw newidiadau i strategaethau datblygu economaidd, ac yn ail i fesur a gwerthuso llwyddiant Rhaglen Adnewyddu’r Economi yn drylwyr.

 

Gall dadansoddiadau cost a budd gynnig cyfraniadau pwysig o ran gwerthuso opsiynau strategaeth a pholisi amgen. Mae hefyd angen ystyried y dystiolaeth ehangach i sicrhau bod strategaethau a pholisïau’n cynnig ymyriadau gwerth am arian, a hefyd yn seiliedig ar resymeg gadarn. Rwy’n gwbl ymrwymedig i sicrhau monitro a gwerthuso effeithiol, yn enwedig o ran sicrhau gwerth am arian.

 

Argymhelliad 31. Dylai pwyllgor yn y dyfodol hefyd graffu ar y polisi gwyddoniaeth newydd i Gymru, sy’n cael ei arwain gan y Prif Gynghorydd Gwyddonol, i sicrhau ei fod yn cyfrannu at fasnacheiddio syniadau Cymreig ym mhynciau gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg.

 

Mae ymgynghoriad yn cael ei gynnal ar hyn o bryd ar adroddiad ac argymhellion 'Gwyddoniaeth ar gyfer Cymru', a baratowyd gan Brif Gynghorydd Gwyddonol Cymru a’r Cyngor Cynghori ar Wyddoniaeth Cymru, sy’n amlinellu cynigion ar gyfer y polisi newydd. Bydd yr ymgynghoriad gyda rhanddeiliaid allweddol yn para tan ddiwedd mis Medi. Yna bydd cytundeb ar y polisi terfynol cyn ei gyhoeddi. Bydd y polisi’n strategaeth gyffredinol ar lefel gymharol uchel. Bydd cynlluniau cyflawni’n dilyn ar gyfer amryw agweddau ar y polisi, fel sy’n briodol.

 

 

4.    Ymrwymiadau allweddol

 

Band Eang

 

Ymrwymiad – ceisio sicrhau bod gan bob eiddo preswyl a busnes yng Nghymru fynediad i fand eang y genhedlaeth nesaf erbyn 2015, gyda’r uchelgais o fynediad i 100Mbps ar gyfer 50 y cant neu fwy.

 

Rydym yn ymrwymedig i sicrhau y bydd gan bob busnes ac eiddo preswyl yng Nghymru fynediad i fand eang y genhedlaeth nesaf erbyn 2015. Disgwylir y bydd gan 50% neu fwy ohonynt fynediad i 100Mbps. Nod prosiect Band Eang y Genhedlaeth Nesaf i Gymru yw sicrhau bod pob busnes a chartref yng Nghymru yn gallu cael mynediad i fand eang cyflym erbyn 2015. Mae proses gaffael fawr yn mynd rhagddi ar hyn o bryd i brynu datrysiad band eang y genhedlaeth nesaf i rannau o Gymru lle na fydd y farchnad yn gofalu amdanynt. Gan ddefnyddio’r weithdrefn gystadleuol, disgwylir dyfarnu’r contract ym mis Mawrth 2012. Mae ymgeiswyr wedi cael eu gwahodd i gyflwyno cynlluniau ar gyfer band eang y genhedlaeth nesaf, a chaiff y cynlluniau hyn eu mireinio dros y misoedd nesaf mewn ymgynghoriad â rhanddeiliaid allweddol fel awdurdodau lleol. Disgwylir i’r gwaith o gyflwyno band eang ddechrau yn haf 2012.

 

Mae’r Cynllun Cymorth Band Eang hefyd yn mynd yn ei flaen yn dda. Mae’r cynllun yn cynnig grant o hyd at £1,000 i breswylwyr, busnesau a mudiadau trydydd sector mewn mannau gwan ar gyfer derbyn band eang allu cael cysylltiad band eang gan ddefnyddio’r dechnoleg fwyaf priodol sydd ar gael. Mae nifer dda wedi manteisio ar y cynllun hyd yn hyn, ac rydym yn gweithio gyda nifer o gymunedau i ddod â gwasanaethau band eang da i’w hardaloedd am y tro cyntaf. Yn ddiweddar rydym hefyd wedi cymeradwyo newidiadau i’r cynllun i symleiddio’r broses ymgeisio a chynyddu nifer y cwsmeriaid, gan gynnwys ymestyn y meini prawf o gysylltedd islaw 512Kbps i gysylltedd islaw 2Mbps a’r opsiwn i dalu cyflenwyr yn uniongyrchol.

 

Cymorth Busnes

 

Ymrwymiad – Cefnogi cwmnïau llwyddiannus o safon yn y rhannau hynny o’r economi a all greu gwaith, cyfoeth a Chymru gynaliadwy.

 

Mae chwe sector blaenoriaeth eisoes wedi’u sefydlu: TGCh, ynni a’r amgylchedd, deunyddiau a gweithgynhyrchu uwch, diwydiannau creadigol, gwyddorau bywyd, a gwasanaethau ariannol a phroffesiynol. Rwyf hefyd wrthi’n ystyried sefydlu tri sector arall – bwyd-amaeth, adeiladu a thwristiaeth.

 

Mae pob un o’r sectorau’n datblygu strategaeth wedi’i thargedu i wneud gwahaniaeth go iawn i’r sectorau hyn yng Nghymru. Mae gan bob un ohonynt banel sector, sy’n cynnwys pobl fusnes ac ysgolheigion llwyddiannus a gwybodus, i helpu i ddatblygu’r strategaethau hyn, llywio’r broses o’u rhoi ar waith a sicrhau bod safbwyntiau diwydiant yn cael eu hadlewyrchu yn ein blaenoriaethau cyflawni a’n dull gweithredu. Bydd y panelau’n rhoi cyngor ar adnabod blaenoriaethau a dulliau gweithredu’r sectorau i sicrhau ein bod yn cael y fantais economaidd orau bosibl.

 

Ymrwymiad – byddwn yn disgwyl bod unrhyw fusnes sy’n ceisio cymorth gan Lywodraeth Cymru,, gan gynnwys contractau caffael cyhoeddus, yn llofnodi’n hegwyddorion cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol, gydag ymrwymiad i ddatblygu cynaliadwy, hyfforddiant ac arferion cyflogaeth da.

 

Bydd Llywodraeth Cymru yn disgwyl i unrhyw fusnes sydd am gael cymorth lofnodi’r egwyddorion cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol ac annog cyflenwyr i wneud yr un fath. Fy nyhead yw bod yr Adran Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth yn gosod esiampl yn hyn o beth. Rwyf wedi gofyn i swyddogion ddechrau gweithio ar hyn gyda’r partneriaid cymdeithasol i bennu’r lefelau priodol ar gyfer cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol. 

 

Ymrwymiad – byddwn yn parhau i feithrin cysylltiadau cryf gyda’n cwmnïau angori ac yn datblygu perthynas gref sy’n gefnogol/buddiol i bawb gyda’r cwmnïau allweddol hyn, gan eu hymgorffori yn economi Cymru drwy feithrin cysylltiadau agos gyda’n sefydliadau addysg bellach ac uwch a gwneud y gorau o gyfleoedd y gadwyn gyflenwi.

 

Y nod yw meithrin cysylltiadau strategol gyda chwmnïau o’r fath, a mabwysiadu safbwynt Llywodraeth gyfan ar eu hanghenion. Mae cynnydd sylweddol wedi bod o ran sefydlu cwmnïau angori, gyda mwy na deg ar hugain o gwmnïau’n cael eu cymeradwyo ac yn derbyn y statws. Mae’n cydweithio â’r byd academaidd yn hanfodol. Hefyd un o brif flaenoriaethau gwaith yr Adran fydd mapio a deall effeithiau’r cadwyn gyflenwi a’r manteision sy’n deillio o hynny.

 

Ymrwymiad – ceisio sefydlu Uned Troseddu Busnes Cymru i fynd i’r afael â throseddu busnes.

 

Rydym am i Gymru fod yn lle gwych ar gyfer busnes ac mae hynny’n golygu mynd i’r afael â phryderon allweddol gan fusnesau a rhwystrau o ran twf busnesau. Gyda chost troseddu busnes yn cynyddu, rydym yn adolygu’r gwaith a wnaed yng Nghymru yn y gorffennol ar droseddu busnes a byddwn yn datblygu cynigion gyda’r gymuned fusnes, heddluoedd Cymru a grwpiau eraill sydd â diddordeb i sefydlu Uned Troseddu Busnes Cymru.

 

Entrepreneuriaeth

 

Ymrwymiad – byddwn yn adolygu’r cymorth entrepreneuraidd y bydd ei angen ar gwmnïau newydd a bach sydd â photensial gwirioneddol i ffynnu a thyfu, a sut gallwn ymgorffori diwylliant entrepreneuraidd yng Nghymru.

 

Ers dechrau yn y swydd, rwyf wedi bod yn trafod yn helaeth gydag arweinwyr busnes, entrepreneuriaid a chynrychiolwyr diwydiant ym mhob cwr o Gymru i drafod y rhwystrau y mae busnesau’n eu hwynebu a sut gallwn sbarduno’r adfywiad economaidd. Rwy’n cymryd camau i asesu gofynion meicro-fenter a’r ymyrraeth sydd ei hangen gan lywodraeth i ddarparu’r cymorth angenrheidiol ar gyfer twf a chynaliadwyedd. Gan ystyried hyn, rydym yn ailasesu’r opsiynau ar gyfer darparu’r gwasanaeth cymorth busnes rhanbarthol yn y dyfodol.

 

Menter Gymdeithasol

 

Ymrwymiad – byddwn yn sicrhau bod y sector cydfuddiannol a cydweithredol yn gallu cael cyngor busnes priodol a thrylwyr ac y bydd yr arweinydd Gweinidogol yn Adran yr Economi.

 

Mae’r cyfrifoldeb dros ddatblygu rôl y sector cydfuddiannol a chydweithredol yn economi Cymru bellach yn rhan o’m portffolio i. Bydd ei osod ochr yn ochr â gweithgareddau busnes a menter eraill yn helpu’r sector, o gwmnïau cydweithredol bach i gyrff cydfuddiannol mawr, i gael yr ystod lawn o wybodaeth fusnes yn ogystal â chyngor wedi’i deilwra.   

 

Twristiaeth

 

Ymrwymiad – rhaid datblygu marchnadoedd gweithgareddau ac arbenigol, yn ogystal â sicrhau manteision gorau posibl drwy ddigwyddiadau mawr yn ein lleoliadau uchel eu proffil.

 

Ymrwymiad – hyrwyddo Cymru fel cyrchfan sy’n cynnig cyfleusterau twristiaeth o safon uchel. Gweithio i ymestyn y tymor ymwelwyr a’r manteision cysylltiedig. Dod o hyd i gyfleoedd cyllid i wella’r seilwaith a’r cynnyrch i ymwelwyr yng Nghymru. Cefnogi buddsoddiad mewn hyfforddi a rheoli staff i gefnogi diwydiant o safon uchel.

 

Mae hyrwyddo Cymru fel cyrchfan yn dal i fod yn swyddogaeth allweddol, gyda chymorth cyllid yr UE dros y blynyddoedd nesaf. Bydd y Cynllun Gweithredu Marchnata Strategol 2010-13, y cytunwyd arno ac y datblygwyd gyda’r diwydiant, yn parhau i ganolbwyntio ar weithgareddau marchnata twristiaeth yn y dyfodol. Bydd datblygu potensial digwyddiadau a gwyliau gweithgareddau yn parhau’n flaenoriaeth i helpu i ymestyn y tymor ymwelwyr. Yn y cyd-destun hwn, bydd cymorth cyllid yr UE ar gyfer creu saith canolfan ragoriaeth yn helpu i wella’r gweithgareddau a gynigir yng Nghymru.

 

Mae’r Cynllun Cymorth Buddsoddi mewn Twristiaeth newydd gael ei ymestyn i roi cymorth i brosiectau seilwaith i ymwelwyr a phrosiectau capasiti newydd i sicrhau y caiff profiadau ymwelwyr eu gwella. Mae rhaglenni adfywio a datblygu gwledig eisoes yn gwneud buddsoddiadau sylweddol mewn cynlluniau seilwaith lleol.

 

Mae’r pedair Partneriaeth Twristiaeth Ranbarthol yn arwain ar ddarparu hyfforddiant i fusnesau yn eu hardaloedd. Bydd prosiect peilot cyfredol, a gaiff ei ariannu drwy Gronfa Gymdeithasol Ewrop (dros 18 mis hyd at fis Rhagfyr 2011) a’i weinyddu gan People 1st, y Cyngor Sgiliau Sector Lletygarwch a Thwristiaeth, yn cael ei adolygu ddiwedd y flwyddyn i benderfynu ar y cymorth ar gyfer diweddaru sgiliau ar wahanol lefelau ar draws y sector lletygarwch a thwristiaeth.

 

Cymru Ddigidol

 

Ymrwymiad – rhoi strategaeth Cymru Ddigidol gan Lywodraeth Cymru ar waith gan ddefnyddio technolegau digidol. Mae’r ymrwymiad yn cynnwys galluogi cyfleoedd, sicrhau mwy fyth o atebolrwydd a thryloywder, a sefydlu porth ar y we i’r hyn sydd gan Gymru i’w gynnig.

 

Mae strategaeth Cymru Ddigidol yn ceisio manteisio ar y cyfleoedd a rheoli’r risgiau sy’n codi o dwf yr economi a’r gymdeithas ddigidol yng Nghymru. Mae’n tynnu nifer fawr o weithgareddau, materion a thargedau ynghyd o amgylch pum thema strategol: cystadleurwydd, sgiliau, cynhwysiant, gwasanaethau cymdeithasol a seilwaith. Er mwyn cyflawni’r targedau bydd angen i bartneriaid y sector cyhoeddus a’r sector preifat ledled Cymru gymryd camau a rhoi cymorth ar y cyd.

 

5.    Crynodeb

 

Rydym yn bwriadu cefnogi cwmnïau llwyddiannus o safon ym mhob rhan o’r economi a all greu gwaith, cyfoeth a Chymru gynaliadwy. Er mwyn adfer yr economi mae angen cymryd camau i adeiladu dyfodol cynaliadwy, tecach a chreu swyddi. Mae’n rhaid i’r economi fod yn flaenoriaeth dros bopeth arall yn y tymor nesaf.

 

Mae angen cymryd gwahanol gamau ym mhob portffolio i helpu i adfer yr economi. Mae hyn yn cynnwys cynigion i wella sgiliau, lleihau diweithdra ymysg pobl ifanc a rhoi’r cymorth angenrheidiol ar gyfer amgylchiadau economaidd gwell yng Nghymru. Caiff rhagor o fanylion am fy mlaenoriaethau yn dilyn fy adolygiad eu cyhoeddi’n fuan.